Mae’r iaith Wyddeleg yn cael ei dathlu ar y we heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6), a hithau’n un o’r cant o ieithoedd sy’n cael eu defnyddio fwyaf ar-lein.
Mae nifer yr adnoddau sydd ar gael i siaradwyr yr iaith yn tyfu’n gyson, gyda mwy o adnoddau ar gael erbyn hyn i helpu pobol i’w dysgu.
Fe fydd digwyddiad arbennig, Lá na Meán Sóisialta, yn cael ei gynnal yn Nulyn a bydd cannoedd o bobol yn troi at y we i drydar am yr achlysur gan ddefnyddio’r hashnod #LNMS19.
Fel rhan o’r digwyddiad, fe fydd nifer o siaradwyr yr iaith, gan gynnwys y pêl-droediwr Michael Darragh MacAuley, yr arbenigwraig dechnolegol Helen McHugh ac Oisín Ó Duinn o gwmni Duolingo yn siarad am dwf a datblygiad yr iaith ar y we.
Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal hyd at Fawrth 17.
‘Croeso i’r Wyddeleg’
“Mae croeso i’r iaith Wyddeleg yma ac ar draws y ddinas,” meddai Nial Ring, Arglwydd Faer Dulyn.
“Mae’n fenter gwych i gyflwyno an Ghaeilge (yr iaith Wyddeleg) i’r gymuned ehangach, ac mae’n croesawu siaradwyr o bob lefel.
“Mae Lá na Meán Sóisialta yn dangos bod yr iaith yn ffynnu, nid yn unig yma yn Iwerddon ond ar draws y byd hefyd, ymhlith dysgwyr a siaradwyr ar-ein; sgyrsiau sy’n aml yn troi’n gymunedau go iawn hefyd.
“Mae’n dangos bod yr iaith yn sicr yn fyw, yn arloesi ac yn addasu.”
Y llynedd, cafodd 3,000 o ddigwyddiadau eu cynnal fel rhan o’r dathliadau ac mae’r trefnwyr yn gobeithio mynd y tu hwnt i’r nifer hwnnw eleni.