Gall tariffiau ar nifer fawr o nwyddau sy’n cael eu mewnforio i wledydd Prydain cael eu torri os bydd Brexit heb gytundeb.
Fe ellid gweld tariffiau yn cael eu torri o rhwng 90% a 90% o fewnforion mewn ymdrech i geisio atal prisiau rhag codi i gwsmeriaid ac i wneud gwledydd Prydain yn “economi agored”.
Ond mae rhybuddion y byddai hyn yn achosi “mewnlifiad o fewnforion o ddur i serameg” a fyddai’n rhoi cynhyrchwyr domestig fel crefftwyr a ffermwyr o dan bwysau enfawr.
Mae’r broses o benderfynu pa dariffiau wedi ei chynnal yn gyfrinachol gan yr Adran Masnach Ryngwladol, y Trysorlys ac adrannau eraill mewn is-bwyllgor y Cabinet.
Byddai rhai mewnforion yn cynnwys ceir, cig eidion, cig oen, llaeth a thecstilau, yn dal i fod yn ddibynnol ar dollau er mwyn amddiffyn y diwydiannau ’sensitif’.