Fe fydd Ysgrifennydd Cartref llywodraeth Prydain, Sajid Javid, yn cyfarfod â phenaethiaid yr heddlu heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6), i drafod pryderon am argyfwng troseddau cyllyll gwledydd Prydain.

Mae cyfres o droseddau cyllyll diweddar wedi tanio trafodaethau dwys ynglŷn â’r nifer o swyddogion yr heddlu sydd ar strydoedd Cymru a Lloegr, sydd wedi disgyn dros 20,000 ers 2009.

Bydd swyddogion o saith llu sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf, yn y cyfarfod heddiw – yn cynnwys Heddlu De Cymru; Heddlu’r Metropolitan; Glannau Merswy; Manceinion; Gorllewin Canolbarth Lloegr; De Swydd Efrog a Gorllewin Swydd Efrog.

Mae’r Prif Weinidog, Theresa May, wedi galw am gyfres o gyfarfodydd i edrych ar sut i daclo troseddau cyllyll.

Daw hyn yn dilyn dadleuon ynglŷn â’i honiad nad oedd cysylltiad uniongyrchol rhwng y troseddau hyn â’r gostyngiad yn niferoedd yr heddlu.