Mae Nicolas Maduro wedi difrïo ei wrthwynebydd, Juan Guaido, mewn araith yn ystod un o seremoniau’r fyddin, yddin wrth i arweinydd yr wrthblaid ail-danio ei ymgyrch i geisio hawlio’i le yn arlywydd.
Daeth ymddangosiad yr arlywydd diwrnod ar ôl i Juan Guaido ddychwelyd i’w wlad i groeso cythryblus ddydd Llun (Mawrth 4).
Roedd Juan Guaido wedi gadael Feneswela y mis diwethaf er mwyn ymweld â Cholombia, Brasil, Paragwai, yr Ariannin ac Ecwador – er i orchymyn llys ei wahardd rhag teithio tramor.
Wrth gyrraedd yn ôl, fe lansiodd ymgyrch am gefnogaeth gan undebau’r wlad.
Mae wedi ei amddiffyn ei hun, gan ymosod ar Juan Guaido yn ystod seremoni oedd yn nodi chweched pen-blwydd marwolaeth ei ragflaenydd a’i fentor, Hugo Chavez.
Mae’r arlywydd, ar y llaw arall, wedi disgrifio’r ymgais hon fel rhan o “blot” i gipio ei swydd, a hynny gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau.