Mae ffynonellau yng nghanolfan yr RAF yn y Fali wedi datgelu problemau mawr gyda’r rhaglen i hyfforddi peilotiaid awyrennau rhyfel.
Mae o leia’ ddau swyddog wedi rhoi gwybodaeth yn ddienw sy’n dangos bod darpar beilotiaid yn treulio misoedd a hyd yn oed flynyddoedd yn cicio’u sodlau a rhai yn gadael ar ôl cael llond bol ar hynny.
Fe gafodd y dystiolaeth o’r ganolfan ym Môn ei datgelu ar rifyn o’r enw Winging It o’r rhaglen radio File on Four neithiwr (nos Fawrth, Mawrth 5).
Roedd honno’n dangos ei bod bellach yn cymryd cyfartaledd o saith mlynedd i hyfforddi peilot rhyfel – dwbwl yr amser y dylai gymryd.
Roedd nifer y darpar beilotiaid segur mewn blwyddyn hefyd wedi mwy na dyblu, o 85 i 190.
Preifateiddio
Yn y Fali y mae llawer o’r hyfforddi mwya’ arbenigol yn digwydd; un o’r trafferthion yno oedd rhwystr rhag hedfan awyren Americanaidd newydd o’r enw’r Texan T6 dros y môr – problem mewn canolfan ar ynys.
Fe gafodd rhaglen hyfforddi’r Llu Awyr ei phreifateiddio yn 2008, pan ddechreuodd cwmni o’r enw Ascent ei gynnal, dan enw’r UK Military Flight Training System.
Mae Ascent yn bartneriaeth rhwng y ddau gwmni mawr, Lockheed Martin a Babcock International.
Yn ôl gwefan Ascent, maen nhw’n cynnal gwasanaeth o safon rhyngwladol. Dyma ddyfyniad: “Mae model yr UKMFTS yn gytundeb partneriaeth effeithiol ac arloesol o safon byd rhwng un o luoedd awyr ac awyrennau gorau’r byd, y Weinyddiaeth Amddiffyn a chyd-fenter rhwng dau o gwmnïau amddiffyn a gwasanaethau cefnogol cryfa’r byd.”
Mae llefarydd ar ran y Llu Awyr wedi amddiffyn y drefn trwy ddadlau bod darpar-beilotiaid yn gwneud gwaith arall gwerth chweil yn eu cyfnodau segur.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb i’r stori ac i’r rhaglen.