Mae carcharor yn Ffrainc sy’n cael ei amau o anafu dau swyddog diogelwch â chyllell, cyn ei gau ei hun mewn ystafell ymwelwyr, wedi’i arestio ar amheuaeth o drosedd yn ymwneud â brawychiaeth.
Mae erlynwyr gwrth-frawychiaeth wedi dechrau ymchwilio i’r digwyddiad yng ngharchar Conde-sur-Sarthe yng ngorllewin y wlad.
Mae’r awdurdodau yn dweud fod gwraig y carcharor ar ymweliad â’i gŵr ar y pryd, pan gafodd giard ei drywanu gyda chyllell serameg.
Yn ôl gwraig y carcharor, mewn neges ar wefan Twitter, dyw anafiadau’r swyddog ddim yn bygwth ei fywyd. Chafodd neb ei gymryd yn wystl chwaith.
Yn ôl y cyfryngau yn Ffrainc, mae’r carcharor yn Fwslim sydd wedi cael ei radicaleiddio. Yn 2015, fe gafodd ei ddedfrydu i 30 mlynedd dan glo am lofruddio dyn 89 oed a oedd wedi bod trwy wersylloedd y Natsiaid.