Mae gwrthryfelwyr yn Affganistan wedi bod yn gyfrifol am ddau ymosodiad gan hunanfomwyr ar gwmni adeiladu ger maes awyr Jalalabad, prifddinas talaith Nangarhar yn nwyrain y wlad.
Mae o leia’ 16 o bobol wedi cael eu lladd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau ar doriad gwawr fel rhan o frwydr hir yn erbyn milwyr lleol. Fe gafodd milwyr America eu dwyn i fewn i gynorthwyo lluoedd Affganistan.
Mae naw o bobol wedi’u clwyfo hefyd, yn ôl swyddfa llywodraethwyr yr ardal.
Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau, ond mae grwpiau’r Taliban a’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn weithredol yn Nangarhar.
Mae’r ddau grŵp wedi bod yn cynnal ymosodiadau dyddiol, bron, ledled Affganistan yn ystod y blynyddoedd diwethaf.