Mae dyn o wlad Pwyl sydd wedi dwyn achos llys wedi i’w gyn-bartner ddod â’u dau o blant i wledydd Prydain, wedi ennill brwydr gyfreithiol yn Llundain.

Roedd yn honni fod ganddo hawl i gael gweld y plant, a’u bod wedi eu cymryd “yn anghyfreithlon” o wlad Pwyl yn ystod haf 2018.

Mae un o farnwyr yr Uchel Lys wedi dyfarnu o’i blaid, ac yn dweud y dylai’r plant ddychwelyd i wlad Pwyl.

Mae Ustus Williams wedi amlinellu ei ddyfarniad mewn dogfen ysgrifenedig, wedi achos preifat yn Adran Deuluol yr Uchel Lys yn Llundain.

Yn ôl y barnwr, ni ddylai’r plant gael eu henwi, ac ni ddylid datgelu ymhle yng ngwledydd Prydain yr oedden nhw wedi bod yn byw gyda’u mam.

Mae’r rhieni wedi bod yn ymladd ei gilydd yn llysoedd gwlad Pwyl hefyd, tros pwy ddylai ofalu am y plant.