Mae Gogledd Corea yn “adnewyddu” un o’i safleoedd rocedi, yn ôl adroddiadau.

Mae hyn er i’r wlad ddechrau tynnu’r lle yn ddarnau y llynedd fel rhan o’i chytundeb dad-arfogi gyda’r Unol Daleithiau.

Ond fe ddaw’r datblygiadau diweddara’ yn dilyn cyfarfod rhwng arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, ac arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yr wythnos ddiwethaf a orffennodd heb unrhyw gytundeb ynglŷn ag arfau niwclear.

Papur newydd De Corea, JoongAng Ilbo, sy’n adrodd y stori heddiw (dydd Mercher, Mawrth 6), gan honni bod ysbïwyr y wlad wedi asesu beth sy’n mynd ymlaen yn safle rocedi Tongchan-ri, Gogledd Corea.

Mae erthygl yn 38 North hefyd – gwefan sy’n arbenigo mewn astudiaethau Gogledd Corea – yn dangos bod lluniau lloeren yn dangos bod yr adnewyddu wedi dechrau rhywbryd rhwng Chwefror 16 a Mawrth 2.

Roedd tynnu’r rhannau o’r safle yn ddarnau yn ganlyniad o drafodaethau rhwng Gogledd Corea, yr Unol Daleithiau, a De Corea y llynedd.