Fe fydd ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n cael yr hawl i adael gwersylloedd yn y Môr Tawel, yn cael eu hanfon i safle tebyg i garchar ar ynys bellennig yn Awstralia i gael triniaeth feddygol.

Fe fyddan nhw’n cael eu hanfon i Christmas Island, 3,210 milltir i’r gogledd-orllewin o Canberra, i gael eu trin.

Yn hytrach na bod ceiswyr lloches yn gorfod ymladd eu hachos yn y llys er mwyn cael yr hawl i fynd i ysbyty yn y wlad, fe fyddan nhw bellach yn cael eu hanfon i’r ynys ar gychod.

Fe ail-agorwyd y gwersyll ar Christmas Island ym mis Rhagfyr y llynedd, wedi i gyfraith gael ei phasio yn caniatau i feddygon, yn hytach na gweision sifil, i benderfynu pa geiswyr lloches allai gael mynediad i ysbytai Awstralia.

Mae panel newydd o feddygon, a fydd yn eistedd ac yn penderfynu pwy sy’n cael eu trin, eto i gael ei benodi.