Mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton, wedi cyhoeddi ei fwriad i sefyll yn isetholiad Gorllewin Casnewydd – sef sedd y diweddar Paul Flynn o’r Blaid Lafur.
Bydd yr isetholiad yn cael ei chynnal ar Ebrill 4 a hwnnw fydd y prawf etholiadol cyntaf yn dilyn Brexit ar Fawrth 29.
Mae Neil Hamilton wedi cyhuddo’r Torïaid a Llafur o “fradychu” Brexit. Roedd Casnewydd wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd o 56% i 44%.
Cyhoeddodd UKIP y newyddion prynhawn heddiw (Dydd Llun, Mawrth 4), bron i 22 mlynedd ar ôl iddo gael ei drechu yn etholiad cyffredinol 1997.
“Casnewydd wedi pleidleisio dros adael”
Yn ôl Neil Hamilton, byddai’n anfon neges glir i San Steffan os yw’n cael ei ethol.
“Mae Theresa May a Jeremy Corbyn yn benderfynol o’n hatal ni rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Fawrth 29. Mae Llafur nawr eisiau ail refferendwm i geisio dadwneud Pleidlais y Bobol.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn Eurofanatics llwyr. Maen nhw’n meddwl eu bod yn gwybod yn well.”
“Fe bleidleisiodd Casnewydd dros adael o fwyafrif mawr, ond mae’r sefydliad gwleidyddol yn gwrthod gwrando. UKIP yw’r unig blaid sy’n ymrwymo i Brexit,” ychwanegodd.
Dywedodd Neil Hamilton hefyd mai Cymru yw’r rhan dlotaf o wledydd Prydain yn dilyn datganoli, gan addo rhoi mwy o bres ym mhocedi pobol gyffredin, ar ben cyflwyno rheolaeth lymach ar fewnfudo.
Mae ei addewidion yn cynnwys cynnyrch bwyd rhatach drwy gael gwared ar drethi mewnforio a biliau trydan a nwy rhatach gan gael gwared ar “drethi gwyrdd.”
Byddai hefyd yn cael gwared ar drwydded deledu’r BBC, ac yn gostwng cymorth i wledydd tramor nad yw’n gymorth dyngarol.