Mae dyn wedi pledio’n euog o roi gwesty yn Aberystwyth ar dân, gan ladd un o’r gwesteion.
Roedd Damion Harris, 31, wedi cynnau’r tân yng ngwesty Ty Belgrave House yn Aberystwyth gan ladd Juozas Tunaitis ac anafu Richard Simnett ar Orffennaf 25 y llynedd.
Yn Llys y Goron Abertawe roedd Damion Harris wedi pledio’n euog i gyhuddiad o ddynladdiad, cynnau tân yn fwriadol ac o achosi niwed corfforol difrifol.
Yn wreiddiol, roedd wedi ei gyhuddo o lofruddio Juozas Tunaitis ond roedd wedi pledio’n euog ar ddechrau’r achos i’r cyhuddiad o ddynladdiad.
Cafodd Damion Harris, o Lanbadarn, Aberystwyth, ei gadw yn y ddalfa ac mae’r Barnwr Paul Thomas wedi gohirio’r achos tan ddydd Mawrth.