Mae tua 500 o bobol, gan gynnwys ymladdwyr, wedi ildio a gadael un o gadarnleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria.
Yn ôl un o swyddogion Lluoedd Democrataidd Syria, sy’n cael eu cefnogi gan yr Unol Daleithiau, mae disgwyl i 200 o bobol eraill adael pentref Baghouz yn nwyrain y wlad yn hwyrach heddiw (dydd Llun, Mawrth 4).
Cafodd ddwsinau o ddynion, merched a phlant eu gweld yn dringo’r bryniau gerllaw cyn cael mynediad i loriau bychan ar ôl cael eu harchwilio gan filwyr yr SDF.
Mae llefarydd ar ran y gynghrair o grwpiau Cwrdaidd, Arabaidd a Syriaidd, yn dweud bod ymladd yn yr ardal wedi oedi rhywfaint tra bo’r gwaith o gludo pobol i ffwrdd yn parhau.