Bydd pleidleiswyr yn cael y cyfle i ddewis olynydd i’r diweddar Paul Flynn ar Ebrill 4, ar ôl i’r Blaid Lafur gynnig bod is-etholiad yn cael ei gynnal yn etholaeth Gorllewin Casnewydd.

Fe gynigodd Prif Chwip y blaid, Nick Brown, y gystadleuaeth yn Nhŷ’r Cyffredin y bore yma (dydd Iau, Chwefror 28), a hynny dros wythnos a hanner ers marwolaeth y diweddar Aelod Seneddol, a oedd yn 84 oed.

Fe lwyddodd Paul Flynn i ddal y sedd am gyfnod o 32 mlynedd, gan sicrhau mwyafrif o 5,658 tros yr ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2017.

Cafodd y cynnig gan Nick Brown ei dderbyn gan Lefarydd y Tŷ, John Bercow, a’i gymeradwyo yn ddiweddarach gan Aelodau Seneddol.