Mae’r cwmni ceir moethus, Aston Martin, wedi datgelu cynlluniau i neilltuo hyd at £30m i helpu gyda Brexit wrth iddo ddatgan colled o £68.2m yn 2018.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiadau o’r colledion trwm y llynedd, sy’n wan i gymharu â £85m yn 2017, sydd o ganlyniad i gostau gwerth £136m i’w ymddangosiad cyntaf ar y farchnad stoc.

Mae’r cwmni yn dweud ei fod yn cymryd camau i leihau’r effaith wael y byddai ymadawiad gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn ei gael ar fusnes o ganlyniad i’w effaith ar y gadwn gyflenwi.

Roedd canlyniadau’r adroddiad yn dangos cynnydd o 26% mewn cyfaint gwerthiant ceir yn 2018 i 6,441, ac fe gododd refeniw o £25 i £1.1 biliwn.

Ei nod yw ceisio cynyddu cyfaint gwrthiant ceir yn 2019 i rhwng 7,100 a 7,300.