Mae cwmni sy’n enwog am ddarlunio wynebau ar sticeri yn null Panini, wedi cael eu hatal rhag gwerthu sticeri o chwaraewyr Clwb Pêl-droed Man U.
Mae Alex a Sian Pratchett, sy’n wreiddiol o Gasnewydd ond sydd bellach yn byw yn Rhydychen, wedi sefydlu’r cwmni ‘Panini Cheapskates’ ers rhai blynyddoedd.
Maen nhw’n dweud ar Twitter fod y clwb wedi cysylltu â nhw yn gofyn iddyn nhw beidio â rhoi wynebau eu chwaraewyr ar y sticeri.
Daethon nhw i amlygrwydd yn ystod Cwpan y Byd 2014, ac unwaith eto yn ystod etholiad cyffredinol 2015 pan ddarlunion nhw sticeri yn dwyn wynebau’r holl arweinwyr gwleidyddol, gan gynnwys Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru ar y pryd.
Mae eu sticeri wedi bod yn destun ffilm, llyfr ac arddangosfa dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn cael eu gwerthu ar eu tudalen Etsy am £11.
‘Anfarwoli wynebau’
“Dydyn ni ddim yn siŵr beth ddaeth drosom ni ond gydag etholiad ar y gorwel a’r sianel deledu wedi’i throi’n betrus at y ddadl deledu gyntaf, cawsom ein hunain wedi’n gorchfygu gan chwant ar unwaith i anfarwoli wynebau eithriadol rhai o fawrion gwleidyddol y genedl ym myd Panini,” meddai’r cwpwl yn 2015.
Mewn neges ar eu tudalen Twitter, maen nhw’n dweud bod yr helynt wedi achosi iddyn nhw “ddysgu tipyn am gyfarwyddyd yr Undeb Ewropeaidd”.
“Amser trist,” meddai’r neges wreiddiol.
“Cysylltodd Man Utd a gwneud i ni stopio gwerthu ein darluniau sigledig o’u cyn-chwaraewyr.
“Os ydych chi wedi archebu un, byddwn ni mewn cysylltiad.”
Cyfarwyddyd Ewropeaidd
Wrth ymateb i negeseuon o gefnogaeth, maen nhw’n dweud eu bod yn “ofni’r gwaethaf” ynghylch y dyfodol, a bod y clwb, mewn gwirionedd, yn eu cyhuddo o “ddwyn eiddo”.
Mae lle i gredu mai’r defnydd o fathodyn clwb Man U yw un o’r prif gwynion, a bod y defnydd ohono’n ymwneud â’r nod masnach.
“Dylid trin y defnydd o nod masnach gan drydydd parti at ddiben mynegiant creadigol fel un sy’n deg, dim ond ei fod ar yr un pryd yn cydymffurfio ag arferion gonest o safbwynt materion diwydiannol a masnachol,” meddai’r cyfarwyddyd, sydd wedi’i uwcholeuo ar eu tudalen Twitter.
“Ymhellach, dylid defnyddio’r rheol yma mewn ffordd sy’n sicrhau parch llawn ar gyfer hawliau a rhyddid sylfaenol, ac yn enwedig rhyddid mynegiant.”