Mae lleihad yn nifer y bobol o ddwyrain Ewrop sy’n byw yn Llanbedr Pont Steffan a’r ardaloedd cyfagos wedi bod yn destun pryder yn lleol.

Yn ôl un o gynghorwyr sir y dref, Ivor Williams, mae ymadawiad teuluoedd o Rwmania a Gwlad Pwyl hyd yn oed wedi bod yn destun trafod ymysg llywodraethwyr yr ysgol leol, y mae ef yn gadeirydd arnyn nhw.

Dywed fod disgwyl i lai o ddisgyblion newydd o oed uwchradd gychwyn yn Ysgol Bro Pedr ym mis Medi eleni, wrth i deuluoedd cyfain naill ai symud i ardaloedd eraill neu ddychwelyd i’w gwledydd genedigol.

Mae’r cynghorydd yn credu bod gan Brexit ran yn hyn o beth, yn ogystal â’r ffaith bod y cwmni lladd-dai, Dunbia, wedi cau ei safle yn Felin-fach a symud y rhan fwyaf o’r gweithwyr oedd yno i safle arall yn Cross Hands.

“Does dim cymaint nawr ag a fuodd,” meddai Ivor Williams. “Mae e’n bach o ofid i’r dref achos eu bod nhw’n hala lot yn y dref. Dydyn nhw ddim yn tueddu i brynu ar-lein, ond yn prynu yn lleol…

“Fe fydd yna fflatiau gwag cyn bo hir os symudith y cyfan i lawr i Cross Hands.”