Mae achos llys dau ddyn sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio llofrudd babi yn ardal Tredegar Newydd yn parhau heddiw (dydd Iau, Chwefror 14).
Mae llys wedi clywed fod llofrudd babi 15 mis oed wedi cael ei drywanu nifer amhenodol o weithiau gan ddau ddyn.
Mae erlynwyr yn achos David Osborne, 51, a Ieuan Harley, 23, yn honni iddyn nhw ddal David Gaut, 54, a’i drywanu ar hyd a lled ei gorff yn ardal Tredegar Newydd.
Roedd e newydd gael ei ryddhau o’r carchar ar ôl 32 o flynyddoedd am lofruddio Chi Ming Shek yn 1985.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd iddo gael 150 o anafiadau tra ei fod yn fyw a’i fod e hefyd wedi cael ei drywanu ddegau o weithiau ar ôl iddo farw. Cafodd ei drywanu â sgriwdreifar a chyllell.
Roedd ei anafiadau i’w ben, ei lygaid, ei wddf a’i geg mor wael nes eu bod nhw wedi cael eu celu rhag y rheithgor. Roedd y gyllell wedi torri yn ei gorff.
Dywed yr erlynwyr ei fod e’n ymwybodol yn ystod yr ymosodiad, ond nad oedd e wedi gallu symud, ac fe fu farw o ganlyniad i waedu trwm.
‘Diffyg tystiolaeth’
Ond mae’r amddiffyn yn honni nad oes digon o dystiolaeth i brofi fod David Osborne yn euog o ymosod.
Mae’n dadlau nad oes tystiolaeth fod David Gaut wedi cael ei ddal ar lawr, ac fe fu sôn am ail gyllell sydd heb ddod i’r golwg hyd yn hyn.
Mae cyfreithiwr ar ran Ieuan Harley yn dweud ei fod yn cysgu yn fflat David Osborne adeg yr ymosodiad.
Mae’r erlynwyr yn dweud mai “ffantasi” yw honiadau Ieuan Harley fod dillad gwaedlyd wedi cael eu dwyn oddi arno a’u defnyddio gan rywun arall. Roedd ôl ei esgid mewn pwll o waed David Gaut, meddai.
Mae’r erlynwyr hefyd yn dadlau bod y ddau wedi ceisio glanhau’r ystafell, gan waredu dillad a rhoi car ar dân.
Mae’r ddau yn gwadu iddyn nhw lofruddio David Gaut fis Awst y llynedd.
Mae Ieuan Harley a Darran Evesham, 47, yn gwadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder – cyhuddiad y mae David Osborne wedi’i gyfaddef. Mae Darran Evesham eisoes wedi’i gael yn ddieuog o lofruddio yn dilyn gorchymyn gan y barnwr.