Prifddinas Cymru yw’r ddinas sydd wedi cael ei heffeithio fwyaf gan doriadau San Steffan, yn ôl adroddiad newydd.
Mae gwaith gan Centre for Cities yn dangos bod gwariant yng Nghaerdydd yn 2017/18, £148 y pen yn is na’r gwariant yn 2009/10.
Hefyd, Caerdydd yw’r unig ddinas Gymreig ar restr Brydeinig o’r 50 dinas sydd wedi’u heffeithio fwyaf gan y toriadau.
Daw cyhoeddiad yr ymchwil yn sgil adroddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru sy’n nodi bod “degawd o gyni wedi newid y ffordd mae cynghorau Cymru yn gwario a chodi arian.”
Mae Cynghorydd Chris Weaver, sydd â phortffolio cyllid Caerdydd, yn mynnu bod Cyngor Caerdydd yn “moderneiddio” ond yn nodi eu bod yn wynebu diffyg £90m dros y tair blynedd nesaf.
“Ceisio ymdopi”
“Y dinasoedd sy’n ysgogi economi Cymru,” meddai Andrew Carter, Prif Weithredwr Centre for Cities.
“Ac er bod y mesurau cyni wedi gwella effeithlonrwydd llywodraeth leol, mae eu maint anhygoel wedi rhoi gwasanaethau cyhoeddus Cymru dan bwysau anferthol.
“Mae cynghorau wedi ceisio ymdopi cymaint ag y gallant, ond nid yw’n bosibl parhau i ddisgwyl i lywodraeth leol wneud toriadau.
“Mae perygl go iawn y bydd llawer o’n cynghorau mwyaf yn troi’n ddarparwyr gofal cymdeithasol yn unig yn y dyfodol agos.”