Fe fydd Theresa May yn teithio i Frwsel heddiw gyda’r gobaith o sicrhau newidiadau i’w dêl Brexit.

Prif nod ei thaith yw addasu’r ‘backstop’, sef trefniant a fyddai’n rhwystro ffin galed yn Iwerddon, ond yn gorfodi’r Deyrnas Unedig i gydymffurfio â rheolau Ewropeaidd.

Mi fyddai’r ‘stop gefn’ yma yn dod i rym pe na tasai’r Undeb Ewropeaidd a gwledydd Prydain yn taro cytundeb masnach mewn da bryd.

Bydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn cyfarfod â Jean-Claude Juncker, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd; a Donald Tusk, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd.

Ac yn ystod y trafodaethau yma mi fydd hi’n dadlau yn erbyn “caethiwo” gwledydd Prydain trwy ‘stop gefn’.

“Uffern”

Daw ei hymweliad yn dilyn ffrae ddiweddar tros sylwadau gan Donald Tusk.

Ar ddydd Mercher (Chwefror 6) mi ddywedodd y Llywydd bod yna “le arbennig yn uffern” ar gyfer y rheiny sy’n hybu Brexit.

Yn ogystal mae Cydlynydd Brexit y Senedd Ewropeaidd, Guy Verhofstadt, wedi ategu nad oes croeso iddyn nhw yn uffern oherwydd “byddan nhw’n medru rhannu uffern yn ddau”.