Mae un o aelodau seneddol mwya’ amlwg Llafur Cymru wedi rhybuddio y gallai aelodau o’i blaid helpu Theresa May i gael ei chytundeb i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae Owen Smith, cyn-lefarydd y blaid ar Gymru a Gogledd Iwerddon a chyn-ymgeisydd am yr arweinyddiaeth, wedi condemnio’i arweinydd, Jeremy Corbyn, am beidio ag ymgyrchu yn erbyn Brexit a thros ail bleidlais gyhoeddus.

Ac yntau’n gwrthwynebu Brexit yn llwyr, fe rybuddiodd Aelod Seneddol Pontypridd fod peryg y bydd tactegau Theresa May yn gweithio ac y bydd ei chytunden hi i adael yn llwyddo ar y funud ola’ gyda chymorth aelodau Llafur.

‘Tacteg syml yn gweithio’

“Y broblem ydi fod gan Theresa May dacteg syml iawn,” meddai wrth raglen radio’r World Tonight.“ …  a’r rheswm ei bod yn edrych mor mor fodlon ddoe yw ei bod yn amlwg yn gweithio.

Dyma’r dacteg, meddai: “parhau i hongian y dewis rhwng ei bargen hi a dim bargen yn fygythiad uwch ein pennau ni gan ddisgwyl, ar y funud ola’, y bydd yr ERG [y Brexitwyr caled] yn plygu neu y bydd y Blaid Lafur yn rhannol blygu ac y bydd ei bargen hi’n mynd trwodd ar gefn pleidleisiau Llafur.”

Fe ddywedodd Owen Smith y dylai Llafur fod yn ymgyrchu yn erbyn Brexit ac y dylai Jeremy Corbyn fod wedi dweud wrth Theresa May ddoe bod rhaid cael ail bleidlais refferendwm ar ddiwedd y broses.

“Fe ddylai fod wedi dweud… bod Llafur yn credu nad oes dim o’r fath beth â Brexit da, Brexit ar gyfer swyddi… dw i ddim yn un o’r bobol sy’n credu bod dim byd da o’r fargen Brexit yma.”

Llafur yn cael y bai

Proffwydoliaeth Owen Smith yw y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn ildio digon i berswadio “cadfridogion cadair freichiau” unolaethwyr y DUP yng ngogledd Iwerddon a’r ERG yng ngwledydd Prydain i gamu’n ôl ac y bydd cytundeb Theresa May yn llwyddo gyda chefnogaeth rhai aelodau Llafur.

Yn y diwedd, meddai, fe fyddai Llafur yn cael eu beio lawn cymaint â’r Ceidwadwyr am y canlyniadau.