Mae mab y clerig eithafol, Abu Hamza, wedi osgoi cael ei gyhuddo o fod â gwn yn ei feddiant.
Cafodd Imran Mostafa Kamel, 26 o Ealing, ei arestio wrth i’r heddlu ymchwilio i lofruddiaeth bownsar mewn parti Nos Calan yn y West End yn Llundain.
Yno, cafodd ei gyhuddo o gario gwn gyda’r bwriad i achosi ofn neu beryg.
Ond cyhoeddodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) heddiw (dydd Iau, Ionawr 31) bod yr achos wedi’i gau am nad oedd yna ddigon o dystiolaeth.