Mae disgwyl i ddyn fynd o flaen ei well ym mis Mawrth wedi’i gyhuddo o ladd gŵr o Bowys tra oedd ar wyliau yn Cyprus.

Fe gafodd Robert Birch, 39, a oedd yn dod o’r Trallwng ac yn cael ei adnabod wrth yr enw ‘Charlie’, ei daro gan gar tra oedd yn cerdded ar hyd lôn ger Paphos am tua 2.30yb ar Fehefin 24 2018. Bu farw yn y fan a’r lle.

Mae gyrrwr y cerbyd, Dimitrios Ilitzidis, wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad, ond yn ystod gwrandawiad yn Llys Rhanbarthol Paphos heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 29) fe blediodd yn ddieuog.

Fe fydd yn sefyll ei brawf ar Fawrth 12.