Mae un o aelodau Senedd yr Alban, sydd wedi cael ei feirniadu am alw Winston Churchill yn “llofrudd”, wedi dweud bod angen i wledydd Prydain fod yn “onest” ynglŷn â’i hanes.
Fe ymddangosodd Ross Greer o’r Blaid Werdd ar raglen Good Morning Britain y bore yma (dydd Mawrth, Ionawr 29) ychydig ddyddiau ar ôl iddo gyhoeddi ar Twitter bod y cyn-Brif Weinidog yn “eithafwr gwyn” a oedd yn gyfrifol am ladd llawer o bobol.
Mewn dadl danllyd rhyngddo a chyflwynwyr y rhaglen foreol ar ITV, dywedodd y gwleidydd fod angen golwg “cyfansawdd” ar hanes.
Ond cafodd ei gyhuddo gan Piers Morgan o fod yn “gasäwr” tuag at Winston Churchill, tra honnodd Susanna Reid wedyn fod “pawb yn dathlu Syr Winston Churchill”.
Mewn ymateb, dywedodd Ross Greer: “Na, dydyn nhw ddim. Os ydych chi’n mynd i India, Iwerddon, Cenia, maen nhw, yn sicr, ddim [yn ei ddathlu].
“Os ydych chi’n mynd i gymunedau fel Clydebank, yr wyf i’n eu cynrychioli, neu os ydych chi’n mynd i Gymoedd de Cymru ac i’r cymunedau glofaol [dydyn nhw ddim yn ei ddathlu].
“Y broblem yw bod safbwyntiau [y cymunedau hyn]… ddim wedi cael eu clywed yn ehangach oherwydd y naratif ei fod e’n arwr na all neb sôn yn negyddol amdano.
“Ond mae’n gymeriad cymhleth, ac mae’n bryd i ni ddechrau bod yn onest am ein hanes.”