Mae arweinydd gwrthblaid Feneswela wedi datgan ei fod o blaid rheolau’r Unol Daleithiau dros berchnogaeth Petroleos de Venezuela SA o olew’r wlad.
Yn ôl Juan Guaido, sy’n honni mai ef yw arlywydd cyfreithlon y wlad, mae’r rheolau yn dilyn galwadau gan wleidyddion i “amddiffyn” asedau’r wlad dramor.
Mae Juan Guaido eisoes wedi datgan ei gefnogaeth i’r Unol Daleithiau. Fe gyhuddodd yr arlywydd presenol, Nicolas Maduro, Juan Guaido o gyd-gynllwynio gyda’r Unol Daleithiau i geisio ei ddisodli.
Fe basiwyd mesur gan yr wrthblaid ym mis Ionawr oedd yn gofyn i wledydd tramor sicrhau nad yw Nicolas Maduro yn gallu rhedeg asedau tramor y wlad “yn wirion.”
Juan Guaido yw arweinydd y Cynulliad Cenedlaethol – yr unig gangen o lywodraeth Feneswela sy’n cael ei gydnabod gan yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill
Dywed mai pwrpas y mesur yw sicrhau nad yw llywodraeth Nicolas Maduro yn “parhau i ddwyn gan bobol Feneswela.”
Cyhoeddodd yr Unol Daleithiau sancsiynau yn erbyn Petroleos de Venezuela SA ddydd Llun (Ionawr 28), gan dorri ffynhonnell incwm hanfodol ar gyfer y genedl.