Mae dyn sydd wedi’i gael yn euog o fygwth swyddogion y cyngor mewn safle ar gyfer sipsiwn a theithwyr yng ngogledd Powys wedi cael ei ddedfrydu i gyfnod yng ngharchar wedi’i ohirio.
Ymddangosodd Martin Joyce, sydd bellach yn byw yn Bletchley ger Milton Keynes, o flaen Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mercher diwethaf (Ionawr 23), lle plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o ymddygiad bygythiol.
Clywodd y llys fod y gŵr wedi colli ei dymer ar ôl i ddau swyddog gyrraedd safle sipsiwn a theithwyr Leighton Archers yn Y Trallwng, a hynny er mwyn gweithredu camau gorfodaeth.
Mae’n debyg bod Martin Joyce wedi bygwth y ddau swyddog a gwneud sylwadau rhywiol ac anweddus wrth un.
Yn ogystal â derbyn dedfryd o dri mis o garchar, sydd wedi’i ohirio am flwyddyn, mae’r drwgweithredwr hefyd wedi’i rwymo i orchymyn atal am gyfnod o ddwy flynedd a’i orchymyn i gyflawni 260 awr o waith di-dâl.