Mae goruchaf lys Pacistan yn amddiffyn y penderfyniad i ryddhau gwraig Gristnogol a gafodd ei dwyn gerbron yr awdurdodau ar gyhuddiad o ‘gabledd’.

Mae Aasia Bibi wedi cael ei rhyddhau o’r carchar er mwyn iddi adael y wlad a symud i Ganada i fyw.

Mae tri barnwr y Goruchaf Lys yn dweud fod y dadleuon gan yr erlynwyr ddim yn eu bodloni.

Roedd Mwslimiaid radical wedi galw ar i’r llys wyrdroi penderfyniad Hydref 31, a gweinyddu’r gosb eithaf yn achos Aasia Bibi.

Fe dreuliodd hi wyth mlynedd wedi’i dedfrydu i farwolaeth, ac mae’n dal i gael ei gwarchod ddydd a nos ers ei rhyddhau.