Ian Jones
 
Pythefnos ers cynnal y cyfweliadau ar gyfer swydd Prif Weithredwr S4C, mae’r Sianel dal i fethu datgelu pwy sydd wedi cael cynnig y swydd.

Mae si ar led o fewn y diwydiant darlledu ers dros wythnos mai Ian Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr A&E Television Networks yn Efrog Newydd, sydd wedi cael ei benodi yn Brif Weithredwr newydd S4C. Dyw S4C heb gadarnhau hyn.

Mae Golwg360 eisoes wedi gofyn am ymateb gan Ian Jones a chan A + E Networks, ond heb dderbyn dim.

Mae S4C wedi dweud heddiw nad oes ganddyn nhw sylw pellach i’w wneud ar hyn o bryd.

Yr wythnos ddiwetha’ fe ddywedodd llefarydd ar ran S4C wrth Golwg360 fod Awdurdod S4C wedi dod i benderfyniad ynglŷn â phenoldi unigolyn i swydd y Prif Weithredwr.

Ond oherwydd ‘materion cytundebol’ mewn perthynas â chyflogwr presennol yr unigolyn roedd rhaid oedi cyn gwneud datganiad.

Nid yw S4C wedi cadarnhau’r sibrydion mai Ian Jones fydd y pennaeth newydd.

Fe ddechreuodd ei yrfa gydag S4C ym 1981 cyn symud i London Weekend Television gan ddychwelyd i S4C yn 1990 lle bu’n gyfrifol am S4C Rhyngwladol. Symudodd i’r Scottish Media Group yn 1997 cyn ymuno gyda Granada yn 2000. Cafodd ei benodi yn ddiweddarach yn Lywydd Explore International ac Is-Lywydd National Geographic Television.

Y llynedd cafodd ei benodi yn rheolwr gyfarwyddwr A&E Television Networks yn Efrog Newydd.

Ymhlith y rhai eraill gynigiodd am y swydd roedd Arwel Ellis Owen, Rhodri Williams ac Aled Eurig.

“Ffars”

Eisoes, mae Rhodri Glyn Thomos wedi dweud wrth Golwg360 ei fod yn bryd sefydlu “Awdurdod newydd” ar S4C a bod angen “tynnu llinell o dan y gorffennol” drwy benodi aelodau newydd i Awdurdod y Sianel.

Fe ddywedodd wrth Golwg360 ar 22 Medi ei fod yn bwysig nad cyhoeddiad y Prif Weithredwr yw’r cawlach diweddaraf.“Mae’r peth yn ffars llwyr, achos mae pawb yn gwybod mai Ian Jones yw e,” meddai.

“Mae pawb yn gwybod hynny ac fe ddylai S4C gyhoeddi eu bod nhw wedi cytuno i benodi Ian Jones a’u bod nhw mewn trafodaethau gyda chyflogwyr Ian Jones i’w ryddhau o,” meddai gan ddisgrifio’r sefyllfa fel “ffars.”