Undeb y Myfyrwyr yn rhybuddio bod astudio’n ddrytach nag erioed

 Wrth i gostau byw godi mae’n mynd i gostio £16,279 i fod yn fyfyriwr yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol, sef £48,837 dros gyfnod o dair blynedd yn astudio am radd.

 Yn ôl Undeb y Myfyrwyr mae eu hymchwil yn dangos bod angen i Lywodraeth Prydain ddarparu fwy o gefnogaeth ariannol i fyfyrwyr.

 Ar gyfartaledd mae’n costio £16,279 i astudio cwrs gradd eleni y tu allan i Lundain, ond mae’r gost yn uwch ym mhrifddinas Lloegr – £17,428.

 Mae Undeb y Myfyrwyr wedi lansio Comisiwn Cefnogaeth Ariannol Myfyrwyr er mwyn edrych yn fanwl a dadansoddi’r beichiau ariannol ar ysgwyddau myfyrwyr.