Mae rhai o athrawon ysgol uwchradd yng Ngheredigion yn bwriadu streicio hyd nes y bydd yna “newid” i ddiwylliant y sefydliad.
Yn ôl undeb NASUWT, mae ei aelodau yn Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi cychwyn ar gyfnod o streicio oherwydd “arferion rheoli niweidiol ac arferion gwaith eraill sy’n creu diwylliant o ofn”.
Roedd heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 22) yn dynodi diwrnod cyntaf y streic undydd, ac mae disgwyl i bum diwrnod streic arall gael eu cynnal yn ystod yr wythnos nesaf.
Mae NASUWT eisoes wedi cael trafodaethau “adeiladol” gyda Chyngor Sir Ceredigion, ond dydyn nhw dal heb gael eu boddhau y byddai newidiadau yn cael eu cyflwyno, medden nhw.
Yn ôl y Cyngor ei hun, maen nhw wedi comisiynu ymchwiliad annibynnol i’r mater, ac maen nhw eisoes wedi siarad â thros 25 o aelodau staff presennol a blaenorol.
“Safiad er mwyn sicrhau newid”
“Mae pleidlais y NASUWT ar gyfer gweithredu’n ddiwydiannol yn dangos bod mwyafrif aelodau’r NASUWT yn credu bod yna ddiwylliant o ofn yn yr ysgol ac maen nhw’n barod i wneud safiad er mwyn sicrhau newid,” meddai Neil Butler o NASUWT Cymru.
“Mae NASUWT wedi ymrwymo i amddiffyn ei aelodau, lle bynnag y maen nhw’n dysgu, rhag ymarferion rheoli annerbyniol, a dyna pam rydym ni’n gweithredu heddiw.
“Mae’n ddrwg gennym ein bod ni’n achosi trafferthion i ddisgyblion a rhieni, ond fe fyddai’r gweithredu’n parhau hyd nes ein bod ni wedi cael ein bodloni bod yr awdurdod lleol a’r llywodraethwyr yn ymrwymo i newid y diwylliant yn yr ysgol.”
Ymchwiliad annibynnol
Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, mae ymchwiliad annibynnol i’r honiadau ynghylch arferion rheoli’r ysgol yn canolbwyntio ar:
- Gwynion yn erbyn arweinyddiaeth yr ysgol, gan gynnwys ystyried a oes diwylliant o fygwth, bwlio ac aflonyddu yn yr ysgol;
- Ystyried a oes grŵp o athrawon a chyn-aelodau staff wedi cyd-drefnu cynllun i fygwth, bwlio, neu aflonyddu ar aelodau o uwch-dîm arweiniol yr ysgol;.
- Ganfod a yw rhai o’r camau yr ymchwiliwyd iddyn nhw wedi mynd yn groes i’r Côd Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y rheiny sydd wedi cofrestru a Chyngor y Gweithlu Addysg.
“Mae’r cyngor yn cymryd unrhyw honiadau o ddifrif a dymuna’r cyngor gyd-weithio â phawb sy’n ymwneud â’r mater yma i sicrhau canlyniadau hirdymor buddiol i bawb,” meddai llefarydd.
“Disgwylir i’r holl ymholiadau gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Ionawr ac yn dilyn hynny, bydd y Cyngor Sir yn gweithredu yn ôl argymhellion yr adroddiad.”