Mae pedwar person wedi cael eu harestio yn Nulyn ar amheuaeth o ariannu brawychiaeth ryngwladol.

Mae’r pedwar yn cynnwys un dyn yn ei 40au, a thair dynes yn eu 30au, 40au a 60au.

Cafodd dogfennau, offer trydanol a gwerth ₤4,500 mewn arian parod eu darganfod wrth i’r Garda archwilio chwe gwahanol fan ym mhrifddinas Iwerddon.

Roedd yr awdurdodau yn ymchwilio i sut mae brawychiaeth ledled y byd yn cael ei hariannu.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.