Mae Cymdeithas Perai Seidr Cymru wedi dod o hyd i fwy na 70 gwahanol fathau o afalau seidr a gellyg sy’n unigryw i Gymru.
Daw hyn yn dilyn dwy flynedd a hanner o ymchwil gan arbenigwyr a gynhaliodd profion DNA ar 200 o goed yng Nghymru.
Yn ôl y gymdeithas, fe ddaethon nhw o hyd i gyfanswm o 73 o rywogaethau newydd sy’n tyfu’r math o afalau a gellyg sy’n addas ar gyfer cynhyrchu diodydd seidr a pherai.
Yn ogystal â chofnodi’r rhain, bu 29 ohonyn nhw wedyn yn destun treialon unigol, gyda sudd o’u ffrwythau yn cael ei eplesu yn ystod y broses.
“Llwyddiant mawr”
Mae nifer o’r rhywogaethau bellach wedi cael eu catalogio a’u casglu ynghyd i greu Casgliad Cenedlaethol y Coed Seidr a Pherai, gyda pherllannau ym Mhrifysgol Aberystwyth (Campws IBERS), Neuadd Erddig ger Wrecsam, a Gerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg.
Bydd pedwaredd berllan, gan y gymdeithas ei hun, yn cael ei rhannu dros ddwy safle, gydag un yn Llanarth, Ceredigion, a’r ail gerllaw Brynbuga, Gwent.
“Pan ddechreuon ni’r prosiect hwn, wnaeth yr un ohonom ni ragweld y llwyddiant mawr fyddai’n dod o ganlyniadau’r profion DNA,” meddai Sally Perks, Cadeirydd Cymdeithas Perai Seidr Cymru.
“Roedden ni’n gobeithio dod o hyd i rai rhywogaethau unigryw, ond doedden ni ddim yn disgwyl y byddai cymaint o wahanol fathau o afalau seidr a gellyg perai yng Nghymru yn unig.”