Mae cyn-Brîf Weinidog yr Alban, wedi ennill achos llys sy’n dweud fod Llywodraeth yr Alban wedi ymddwyn yn anghyfreithlon.

Roedd yr achos yn ymwneud â honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Alex Salmond, cyn-arweinydd yr SNP, lle’r oedd yn cael ei gyhuddo o aflonyddu’n rhywiol ar ddwy fenyw.

Mae barnwr yr achos yn llys goruchaf yr Alban, wedi beirniadu casgliadau Llywodraeth yr Alban yng Nghaeredin cyn galw ar weinidogion i dalu am gostau Alex Salmond.

Yn y gwrandawiad, fe gadarnhaodd y Llywodraeth bod Judith McKinnon – y gweinidog sifil oedd yn ymchwilio i’r cyhuddiadau – wedi trafod yr achosion gyda’r cyhuddwyr bythefnos cyn iddyn nhw ddod yn gyhoeddus.

Mae’n golygu bod yr holl archwiliad gafodd ei lansio ar Ionawr 2018 wedi torri cod proses deg, ac yn anghyfreithiol yn ôl y gyfraith.

Cwestiynodd gweinidogion yn y llys “ragfarn amlwg” y swyddogion oedd yn gyfrifol.

Salmond yn galw am ben 

Mae Alex Salmond nawr yn galw ar y gweinidog sifil, Judith McKinnon, ac Ysgrifenyddes Llywodraeth yr Alban, Leslie Evans i ymddiswyddo.

Mae’n eu cyhuddo o “wastraffu” cannoedd o filoedd o bunnoedd o arian cyhoeddus.

“Mae’r broses eisoes wedi cael ei ddatgan yn anghyfreithlon, annheg ac wedi ei seilio ar ragfarn,” meddai Alex Salmon.

“Pan mae hi’n cael amser i wneud adlewyrchiad, rwy’n gobeithio bod yr ysgrifenyddes yn ystyried ei safle, nid ddigwyddiadau, yn y dyfodol.”

“Ni allaf feddwl am ymateb sydd mor gywir a phriodol a hyn ar ddiwrnod mor gywilyddus i Lywodraeth yr Alban.”

Fe adawodd Alec Salmond yr SNP oherwydd yr achos, ond dywedodd heddiw ei fod bellach yn fwriad ganddo i ail-ymuno a’r blaid.