Carchar yng Nghymru fydd canolbwynt astudiaeth lle bydd arbenigwyr yn ystyried a yw galw carcharorion yn “ddynion” a’u celloedd yn “ystafelloedd” o fudd wrth gynnig adferiad iddyn nhw.
Bydd y prosiect tair blynedd, gwerth £600,000, yn cael ei gynnal yng Ngharchar Berwyn yn Wrecsam, y carchar mwyaf yng Nghymru a Lloegr a’r ail fwyaf yn Ewrop.
Mae arbenigwyr o Brifysgolion Caerfaddon a Chaerlŷr hefyd am astudio ffactorau fel dyluniad y carchar, arweinyddiaeth, a’r berthynas rhwng aelodau staff a charcharorion.
Y gobaith yw y byddai’r mesurau sy’n cael eu defnyddio yn y carchar, os ydyn nhw’n cael eu profi’n llwyddiannus, yn cael eu gweithredu yn y gyfres nesaf o garchardai a fydd yn cael eu hadeiladu ymhen blynyddoedd.
Cafodd carchar Berwyn ei agor ym mis Chwefror 2017, ac mae’n garchar categori C ar gyfer 2,106 o ddynion.
Yr ymchwil
Ymhlith rhai o’r gwelliannau sydd eisoes wedi’u gwneud yng ngharchar Berwyn er mwyn gwella awyrgylch y lle mae llenwi gofodau gwag ar waliau gyda darluniau o’r tirlun lleol.
Bydd yr astudiaeth yn ystyried a ydy’r camau hyn, sy’n rhwydd ac yn rhad, yn ôl yr arbenigwyr, wedi cael effaith bositif ar garcharorion.
Maen nhw hefyd am astudio’r newidiadau diwylliannol sydd wedi’u cyflwyno, yn enwedig y defnydd o “ddynion” i ddisgrifio troseddwyr, a “chymunedau” wrth gyfeirio at y blociau lle maen nhw’n byw ynddyn nhw.
Pwyso a mesur
“Mae rhai o’r newidiadau yma yng ngharchar Berwyn yn gymharol syml, ond mae’n bosib eu bod nhw’n cael effaith bwysig wrth sicrhau bod carcharorion yn teimlo eu bod nhw’n cael eu trin gyda pharch,” meddai’r Athro Yvonne Jewkes o Brifysgol Bath.
“Ac os ydym ni, fel cymdeithas, o ddifri ynglŷn â darparu adferiad ac atal aildroseddu, yna mae’n rhaid i ni ystyried yn fanwl sut y gall y mathau hyn o gamau fod o fudd.
“Mae hyn ynglŷn â sicrhau cydbwysedd rhwng amcanion cystadleuol y carchardai – cosb ond hefyd adferiad.”