Mae pedwar o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn damwain ddifrifol yng ngogledd-orllewin Lloegr.
Fe gafodd dwy ambiwlans awyr, pedair ambiwlans arferol, yr heddlu a’r frigâd dân, eu galw i safle’r ddamwain rhwng cyffyrdd 3 a 4 ar draffordd yr M58 ger Wigan toc wedi 8.45yb heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 8).
Mae disgwyl i’r ddwy lôn rhwng Bickerstaffe ac Orrell fod ar gau am rai oriau tra bydd y gwasanaethau brys yn delio ac yn ymchwilio i’r digwyddiad.
Y gred ydi bod tri dyn ymhlith y rheiny sydd wedi cael eu cludo i’r ysbyty, ac y gallai dau o’r rheiny fod yn blant.