Fe gafodd dyn digartref yng Nghaerdydd ei adael mewn pabell oedd ar dân, ac mae wedi derbyn triniaeth am losgiadau yn Ysbyty Athrofaol y brifddinas.
Fe gafodd ei anafu ddydd Llun, wedi i’w babell fynd ar dân ar Heol y Frenhines.
Mae Heddlu De Cymru yn trin y digwyddiad fel achos o ddifrod troseddol, ac mae yna ymchwiliad ar y gweill.
“Tua 1.30yp ddydd Llun, fe gafodd swyddogion oedd ar batrôl yng nghanol dinas Caerdydd, eu galw i weld achos o ddifrod troseddol i babell ar Heol y Frenhines.
“Roedd un dyn wedi cael ei anafu, ac fe fu’n rhaid iddo gael ei gludo i’r ysbyty am driniaeth. Rydyn ni’n dal i ymchwilio er mwyn dod o hyd i bwy oedd yn gyfrifol.”