Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi goroesi ymdrech i’w disodli, ond parhau mae ffraeo mewnol y Blaid Geidwadol.
Yn dilyn pleidlais diffyg hyder ddydd Mercher (Rhagfyr 12), mae Jacob Rees Mogg – Aelod Seneddol sy’n frwd o Brexit – wedi galw ar Theresa May i ildio’r awenau.
“Dylai Theresa May ymddiswyddo cyn gynted ag y bydd y Frenhines yn rhydd i’w gweld hi,” meddai. Daw’r alwad er iddi ennill y bleidlais diffyg hyder o 200 pleidlais i 117.
Ond, bellach mae sawl Aelod Seneddol Ceidwadol wedi troi at gyfryngau cymdeithasol i’w chefnogi.
“Dydyn nhw byth yn stopio,” meddai’r Gweinidog Tramor, Alistair Burt. “Dyw’r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd [grŵp mae Jacob Rees Mogg yn gadeirydd arno] ddim yn poeni am unrhyw beth.
“Ar ôl i’r byd ddod i ben, dim ond dau beth fydd ar ôl. Morgrug, ac Aelodau Seneddol Ceidwadol yn cwyno am Ewrop a’u harweinydd.”
Mae’r Ysgrifennydd Busnes, Greg Clark, wedi galw ar Aelodau Seneddol i “stopio beirniadu” ac yn mynnu bod neb eisiau Brexit heb ddêl.