Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am ddatganoli pwerau darlledu i Gymru yn wyneb y newyddion bod Ofcom wedi derbyn cais i ddod â Radio Ceredigion i ben, gyda’r donfedd yn cael ei rhoi i sianel uniaith Saesneg.

Ofcom sydd yn rheoleiddio radio lleol drwy wledydd Prydain ond mae Cymdeithas yr Iaith yn gweld datganoli rheoleiddwyr radio lleol fel un o’r camau cyntaf tuag at ddatganoli darlledu i Gymru.

“Mae’n gwbwl amlwg nad yw’r system ddarlledu dan reolaeth San Steffan yn cael ei chynnal er lles Ceredigion na Chymru,” meddai Heled Gwyndaf, Cadeirydd Grŵp Digidol, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Datganoli darlledu yw’r unig ateb. Dylid yn y lle cyntaf ddatganoli’r rheoleiddwyr fel y gallwn ni fel cenedl benderfynu beth yw’n gofynion ni o ran darlledwyr y genedl.

“Mae Llywodraeth Prydain, drwy Ofcom, wrthi’n ceisio llacio rheoleiddio ymhellach – gyda dim gofyniad i radio masnachol gynnwys newyddion cenedlaethol am Gymru na darlledu yn Gymraeg.

“Mae gwir angen datganoli darlledu i Gymru i ni fel cenedl allu gosod rheolau ein hunain, wedi’i seilio ar beth sy’n bwysig i ni. Pa synnwyr mai’r wlad drws nesaf i ni sy’n gyfrifol am ddarlledu yn y wlad?”