Fe fydd bar Gwdihŵ yng Nghaerdydd yn cau ddiwedd mis Ionawr.

Daw’r newyddion yn dilyn y penderfyniad i beidio â rhoi prydles newydd i’r tenantiaid, ac mae deiseb yn galw am wyrdroi’r penderfyniad ac i achub y lleoliad presennol yn Guildford Crescent wedi denu dros 1,900 o lofnodion.

“Gyda chalon drom, rydym yn cyhoeddi y byddwn yn cau ein drysau ar Guildford Crescent ar ddiwedd mis Ionawr,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

“Mae ein landlordiaid wedi penderfynu peidio ag adnewyddu ein prydles – er, neu oherwydd cynnig Cyngor Caerdydd i roi statws ardal gadwraeth warchodedig i Guildford Crescent – ac felly, rhaid i ni adael ar Ionawr 30.

‘Diolch’

“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi gwneud Gwdihŵ yn lle mor eithriadol o arbennig i fod dros y deng mlynedd diwethaf.

“O’r holl hyrwyddwyr sydd wedi cyflwyno sioeau hudolus a nosweithiau clwb bywiog, i’r cerddorion talentog sydd wedi bod ar ein llwyfan bach lliwgar.

“Yn olaf, diolch enfawr i’n holl staff a’n cwsmeriaid presennol a’r gorffennol. Yn wir, y peth gorau am Gwdihŵ yw cymaint o deulu yw e ac rydym yn lwcus o fod wedi cael pobol mor gyfeillgar a chefnogol yn rhan o’r teulu.

“Fodd bynnag, nid dyma’r diwedd i ni.

“Byddwn yn ceisio cario enw Gwdihŵ i mewn i 2019, felly rydym yn annog unrhyw un all gynnig gofod neu gyfrannu mewn unrhyw ffordd i gysylltu trwy’r cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bost: info@gwdihw.co.uk.

“Gobeithio y gwelwn ni gynifer ohonoch chi â phosib dros yr wythnosau nesaf cyn i ni gau, i ddathlu’r deng mlynedd diwethaf, felly dewch draw i gael parti gyda ni am y tro olaf yn Guildford Crescent.”