Mae dynes 65 oed wedi marw ar ôl cael ei tharo gan fan yn nhref Tonypandy fore heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 9).

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Heol y Dywysoges Louise am oddeutu 7.15yb yn dilyn adroddiadau bod Nissan NV 200 wedi ei tharo.

Roedd y ffordd ynghau am rai oriau.

Mae’r heddlu’n apelio am dystion.