Mae gwrthwynebwyr Tommy Robinson yn dweud bod bum gwaith yn fwy o bobol ar eu gorymdaith nhw nag yr oedd ganddo fe yn Llundain.
Mae lle i gredu bod oddeutu 15,000 o bobol wedi troi allan i wrthwynebu’r rali a gafodd ei threfnu er mwyn dangos dicter ynghylch yr hyn mae ymgynghorydd newydd UKIP yn ei alw’n “frad” tros Brexit.
Roedd yr heddlu wedi bod yn rhybuddio pobol i gadw draw oddi wrth ei gilydd yn ystod y ddau ddigwyddiad oedd yn anelu am ganol dinas Llundain heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 9).
Ymhlith y rhai yn rali Tommy Robinson roedd aelodau UKIP a’r EDL, gydag aelodau Llafur ac ymgyrchwyr gwrth-ffasgaidd ar yr orymdaith gyferbyniol.
Dydy’r heddlu ddim wedi cadarnhau faint o bobol oedd yn cymryd rhan yn y naill orymdaith na’r llall.
‘Ergyd’
Yn ôl gwrthwynebwyr Tommy Robinson, roedd y niferoedd yn “ergyd” iddo fe, ei gefnogwyr a’i “wleidyddiaeth ffiaidd sy’n cael ei thanio gan gasineb”.
Dywed un o’i gefnogwyr ei fod e wedi mynd â rhaff gyda fe ar yr orymdaith “i’r Prif Weinidog Theresa May”.
Roedd canghellor yr wrthblaid, John McDonnell wedi annog pobol i ymgynnull i wrthwynebu rali Tommy Robinson, gan ddweud ei fod e a’i gefnogwyr eisiau “gwisgo mewn siwtio ac esgus bod yn barchus”.
Mae trefnwyr yr orymdaith wrth-ffasgaidd yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n galonogol ynghylch yr undod ymhlith eu cefnogwyr yn ystod y digwyddiad.