Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi taflu golau tros ddirgelwch goleuadau traffig yng ngogledd y sir.
Yn ôl trigolion lleol, mi wyrodd lori oddi ar ffordd yr A485 rhwng Pencarreg a Llanbedr Pont Steffan dros flwyddyn yn ôl, gan blymio i fewn i gae yn yr ardal.
Yn fuan wedi hynny cafodd goleuadau eu gosod yno, medden nhw, a misoedd yn ddiweddarach maen nhw’n dal yno – heb sôn am unrhyw waith ffordd.
Roedd y Cyngor Sir Gâr wedi gwadu bod yna oleuadau yno, a hyd heddiw (Rhagfyr 6) does dim cofnod ohonyn nhw ar eu gwefan ‘gweithfeydd ffyrdd’.
Ond bellach mae’r Cyngor wedi cydnabod bod y goleuadau traffig yn bodoli ac wedi datgelu y bydd wal yn cael ei adeiladu yno yn y flwyddyn newydd.
“Cafwyd trafodaethau parhaus â’r tirfeddiannwr ynghylch y gwaith adfer,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin wrth golwg360.
“Mae mynediad bellach wedi’i sicrhau a bydd gwaith adeiladu wal gynnal caergawell newydd yn dechrau ar y safle yng nghanol mis Ionawr 2019.”