Mae yna alwadau ar i Boris Johnson ymddiheuro gerbron Aelodau Seneddol ar ôl methu â datgan mwy na £52,000 o’i enillion.
Yn ôl Pwyllgor Safonau’r Senedd, roedd y cyn-Ysgrifennydd Tramor wedi “torri’r rheolau’r Tŷ” trwy fethu â datgan ei enillion yn llawn ar naw adeg gwahanol.
Mae gofyn i Aelodau Seneddol ddatgan eu holl fuddiannau o fewn mis ar ôl iddyn nhw gael eu hethol, ac mae unrhyw newidiadau i hyn yn gorfod cael eu cofnodi o fewn 28 diwrnod.
Dywed y pwyllgor fod naw taliad wedi cael ei wneud i Boris Johnson ar ôl dyddiad cau y 28 diwrnod, sydd â’r cyfanswm o £52,722.80.
Maen nhw wedi awgrymu y dylai’r gwleidydd ymddiheuro am y mater yn ystod sesiwn yn Nhŷ’r Cyffredin.