Mae’r Welsh Whisperer mewn “sioc” ar ôl clywed bod 1,500 copi o’i lyfr newydd wedi eu gwerthu mewn mis.
Yn ôl y cyhoeddwyr, Y Lolfa, mae Ffyrdd y Wlad wedi gwerthu mor dda fel eu bod nhw’n bwriadu ei ailargraffu ar drothwy’r Nadolig.
Dyma’r tro cyntaf i’r Welsh Whisperer gyhoeddi ei lyfr ei hun, yn dilyn ei boblogrwydd fel diddanwr a chanwr gwlad ar lwyfannau ledled Cymru.
Mae plant bach yn gwisgo fel y Welsh Whisperer ar gyfer carnifals ac mae ganddo eitem ‘Tafarn yr Wythnos’ ar raglen Heno ar S4C, ac mae wedi cyhoeddi sawl albym boblogaidd.
Llwyddiant
“Dw i’n falch achos mae’n rhywbeth y gall lot o bobol ei fwynhau, a lot o bobol ifanc hefyd,” meddai’r Welsh Whisperer wrth golwg360.
“Beth dw i wedi’i sylwi wrth fynd rownd yn arwyddo a phethe yw faint o ystod oedrannau sydd wedi dangos diddordeb yn y llyfr.
“Nid hunangofiant yw e, ond pytiau o straeon diddorol am lefydd dw i wedi bod ynddyn nhw, pobol dw i wedi’u cyfarfod a hanes rhai o’r caneuon.
“Mae’n ffordd dda o ddod i adnabod fi ychydig bach yn well.”
Llyfr Glas Nebo ar y brig
Er bod Ffyrdd y Wlad wedi gwerthu ymhell dros 1,500 o gopïau ers ei gyhoeddi ddiwedd mis Hydref, nid dyna’r llyfr sydd wedi cael y gwerthiant gorau eleni, yn ôl Y Lolfa.
Ers i’r awdures Manon Steffan Ros gipio’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd fis Awst, mae bron 5,000 copi o Llyfr Glas Nebo, gan gynnwys e-lyfrau, wedi’u gwerthu.