Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, wedi cytuno i gymryd rhan mewn dadl deledu a fydd yn cael ei ddarlledu gan y BBC.

Brexit fydd y pwnc trafod, ac mae disgwyl i’r ddadl gael ei chynnal ar Ragfyr 9 yn Birmingham – dau ddiwrnod cyn y bleidlais ar y cyntundeb ymadael.

Er gwaetha gwrthwynebiad gan Blaid Cymru a’r SNP fyddan nhw ddim yn cael cymryd rhan, a Jeremy Corbyn yn unig fydd yn dadlau â hi.

Ond, yn ôl ffynonellau o fewn y blaid Lafur, dyw ei harweinydd ddim wedi cytuno i gymryd rhan eto.

Yn ystod ymddangosiad ar raglen deledu This Mornng mae Jeremy Corbyn wedi dweud y byddai well ganddo ddadlau â Theresa May ar ITV.

Ac mae adroddiadau’n awgrymu bod ITV yn awyddus i newid amser ffeinal I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! fel eu bod nhw’n medru cynnal y ddadl.

Gwrthwynebiad

Ar ddechrau’r wythnos Cytunodd Theresa May a Jeremy Corbyn i fynd ben yn fyw ar deledu, a’n sgil hynny gwnaeth yr SNP, Democratiaid Rhyddfrydol, a’r Blaid Werdd gwyno.

Cwyno hefyd waeth Plaid Cymru, ac ar ddydd Mawrth (Tachwedd 27) cyhoeddodd Adam Price, eu harweinydd, lythyr o wrthwynebiad.

“Buaswn yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan mewn dadl ar effeithiau’r ymadawiad ar Gymru a’r Deyrnas Unedig,” meddai yn ei lythyr.

“Mae’r bobol yn haeddu cael cyfle i ddeall y bleidlais yr ydych chi yn ei gynnig. Ac mae hynny’n golygu bod rhaid cynnal dadl deledu gydag amryw o safbwyntiau.”