Mae arbenigwr ar y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn dweud ei fod wedi’i “synnu” gydag arweinwyr y diwydiant amaeth, ar ôl iddyn nhw “ruthro” i gefnogi cytundeb Brexit Theresa May.
Daw sylwadau Wynfford James yn dilyn ymweliad y Prif Weinidog â’r Ffair Aeaf yn Llanelwedd heddiw (Tachwedd 27), lle bu’n siarad â chynrychiolwyr o’r ddau ddiwydiant.
Yn ôl cyn-bennaeth Adran Fwyd Llywodraeth Cymru, mae NFU Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru wedi gwneud “annhegwch mawr” â’r diwydiant bwyd a diod drwy dderbyn y cytundeb Brexit yn ei ffurf bresennol.
Roedd angen “llawer mwy o graffu” arno, meddai, ac mae’n cyhuddo’r ddau undeb o ddiystyru opsiynau eraill sydd ar y bwrdd, gan gynnwys yr opsiwn o ‘Bleidlais y Bobol’.
“Rhaid cymryd cam yn ôl”
“Maen nhw’n sicr yn chwarae i mewn i ddwylo’r Prif Weinidog ar hyn o bryd,” meddai Wynfford James wrth golwg360.
“Dylen nhw fod yn cymryd cam yn ôl ac edrych yn ofalus cyn dod i unrhyw fath o gasgliad neu benderfyniadau.
“Nid dyma’r unig beth sydd ganddon ni ar y bwrdd. Mae’r drafodaeth ehangach yn cynnig nifer o opsiynau eraill, a dyna beth y dylen nhw fod yn eu hystyried os ydyn nhw’n wirioneddol am roi arweiniad cytbwys i’r diwydiant bwyd a diod ar hyn o bryd.”
“Andwyol”
Wrth roi ei farn ar y cytundeb ei hun, mae Wynfford James yn credu y bydd yn “andwyol” i’r diwydiant bwyd a diod.
“Yn syml, dyw’r cytundeb a’r hyn sy’n cael ei gynnig yn bell ffordd o’r cyfleon sydd gan y diwydiant ar hyn o bryd,” meddai wedyn.
“Fedrai ddim gweld bod yr hyn syn cael ei gynnig o safbwynt dyfodol masnachu ar gyfer y diwydiant yn mynd i fod yn fanteisiol.”