Mae un o Aelodau Seneddol Ewrop UKIP wedi gadael y blaid mewn protest yn erbyn y ffaith i’w harweinydd apwyntio Tommy Robinson yn ymgynghorydd.

Mae Patrick O’Flynn wedi gadael y grŵp ar ôl i’r arweinydd Gerard Batten droi at sylfaenydd yr EDL (English Defence League) am gymorth. Mae’n dweud fod y cam yn “rhwystr i’r ymgyrchu Brexit”.

Mae’n honni hefyd fod gan Gerard Batten “obsesiwn amlwg a chynyddol” gyda Tommy Robinson.

Mae Patrick O’Flynn wedi cynrychioli Dwyrain Lloegr ers 2014, ac yn dweud ei fod yn gadael i ymuno a’r Parti Democrataidd Cymdeithasol.

Mae’r ymadawiad yn dilyn beirniadaeth gan gyn arweinydd UKIP, Nigel Farage, o apwyntiad Tommy Robinson – mewn rôl sy’n cynghori Gerard Batten ar gangiau treisio a diwygio carchardai.