Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi mai’r cyn-Aelod Cynulliad, Aled Roberts, fydd Comisiynydd nesaf y Gymraeg.
Fe fydd yn olynu Meri Huws yn y swydd ar Ebrill 1, 2019, ac yn cael ei benodi am gyfnod o saith mlynedd.
“Dw i wedi bod yn frwd dros yr iaith erioed,” meddai Aled Roberts.
“Roedd gweithio gyda’r awdurdodau lleol ar eu cynlluniau addysg cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar a chynorthwyo Llywodraeth Cymru i wireddu ei hamcanion ar gyfer dyfodol y Gymraeg mewn addysg yn fraint ac yn brofiad gwych.
“Mae ymgymryd â’r rôl hon yn gyfle cyffrous,” meddai wedyn. “Dw i’n edrych ymlaen at adeiladu ar waith Meri Huws, a gweithio i wireddu’r targed a nodir yn Cymraeg 2050 a sicrhau y cynhelir hawliau siaradwyr Cymraeg.
“Mae’n her fawr ac rwy’n benderfynol o’i chyflawni – ac i wneud hynny, bydd angen imi gydweithio’n effeithiol a phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.”