Mae tri o bobol wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 32 oed a gafodd ei ganfod yn farw mewn coedwig yng Nghaerdydd.

Mae disgwyl i ddyn 19 oed, merch 17 oed a bachgen 16 oed – ill tri o Gaerdydd – ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd y bore yma (dydd Mawrth, Tachwedd 27) wedi’u cyhuddo o lofruddiaeth.

Bydd dau arall o Gasnewydd yn ymddangos gerbron y llys hefyd, sef John Junior Phillips, 27, sydd wedi’i gyhuddo o ymosod; a Lauren Hutchinson, 19, sydd wedi’i chyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe gafodd corff Anthony Winter ei ganfod mewn coedwig yn ardal Llaneirwg ddydd Iau (Tachwedd 22) toc wedi 7.15yb.