Fe fydd General Motors yn diswyddo hyd at 14,000 o weithwyr yng ngogledd America, ac mae’n bosib y byddan nhw’n cau pum ffatri, wrth i’r cwmni geisio torri costau a chanolbwyntio mwy ar gynhyrchu ceir trydan.

Mae’r swyddi dan fygythiad yn cynnwys 8,100 o staff swyddfa y mae disgwyl i rai ohonyn nhw dderbyn pecynnau gadael, a rhai eraill a fydd yn cael eu rhoi ar y clwt.

Mae GM yn cyflogi 54,000 o bobol yng ngogledd America, ond mae 3,000 o swyddi yn Canada hefyd yn y fantol, a thros 3,000 mewn llefydd eraill yn yr Unol Daleithiau.

GM yw gwneuthurwr ceir mwyaf America, ac mae’n cynnwys brandiau Chevrolet, Buick, Cadillac a GMC.

Mae disgwyl i’r toriadau arbed $6bn (£4.68bn) i’r cwmni.